Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00668
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £37,999 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Arall
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
19 Ion 2025
Dyddiad Cyfweliad
29 Ion 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae’r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg yn recriwtio Tiwtor Addysg Drawswladol. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn Tsieina am ddau floc addysgu ac yn dychwelyd i’r campws rhwng mis Mehefin a mis Medi i weithio gydag ELTS ar eu rhaglenni haf prysur.

Mae’r Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg am recriwtio Tiwtor Addysg Drawswladol i ymuno â rhaglen addysg drawswladol sy’n tyfu yn Tsieina.

Bydd y Tiwtor Addysg Drawswladol yn gyfrifol am ddarparu dosbarthiadau iaith Saesneg mewn prifysgol beirianneg yn Tsieina. Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio yn Abertawe hefyd yn darparu cyrsiau haf.

Mae prif gyfrifoldebau’r rôl yn cynnwys:

  • Addysgu fel aelod o dîm addysgu bach ar raglen addysgu dramor mewn amrywiaeth o leoliadau, o diwtorialau grŵp bach/unigol i ddosbarthiadau mwy.
  • Datblygu a diweddaru deunyddiau, dulliau ac ymagweddau addysgu a rhoi gweithdrefnau a meini prawf asesu sefydledig ar waith o fewn fframweithiau cytunedig.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a gweithgareddau y tu hwnt i addysgu a all gynnwys marchnata ELTS a meithrin perthnasoedd proffesiynol dramor.
  • Cynorthwyo gyda dyletswyddau gweinyddol yn ôl yr angen, gan gynnal cofnodion manwl o bresenoldeb a gwaith a gwblhawyd ym mhob dosbarth.
  • Addysgu ar gyfer y Gwasanaethau Hyfforddiant Iaith Saesneg rhwng mis Mehefin a mis Medi neu yn ôl yr angen.

Yn ELTS, rydym yn ymfalchïo yn ein hyfforddiant iaith Saesneg proffesiynol o ansawdd uchel, ac yn cynnig amrywiaeth o raglenni EFL, EAP ac ESP, yn ogystal â chyrsiau hyfforddiant athrawon CELTA. Er mai datblygiad ieithyddol yw ein prif flaenoriaeth, mae gofal bugeiliol ein myfyrwyr bob amser wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud hefyd. Mae ethos o gyswllt personol cryf a chefnogol yn rhan o holl weithgareddau ELTS, ac rydym yn gweithio'n galed i alluogi pob myfyriwr i ddatblygu a chyflawni ei botensial llawn.

Mae'r swydd hon yn galw am gyfrannu at addysgu, asesu myfyrwyr a goruchwyliaeth yn ELTS. Bydd yn rhaid i ddeiliad y swydd hon ddarparu gweithgarwch dysgu ac addysgu o safon uchel i fyfyrwyr, ac ymrwymiad i wella profiad cyffredinol y myfyrwyr.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Mae menywod a chydweithwyr o leiafrifoedd ethnig wedi'u tangynrychioli yn y byd academaidd a byddem yn annog ceisiadau gan y grwpiau hyn yn benodol. Penodir ar sail teilyngdod bob tro.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Bydd yn rhaid darparu tystysgrif foddhaol gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd cyn y gellir cadarnhau dyddiad dechrau.

Lawrlwytho Disgrifiad Swydd Lawrlwytho Llynfryn Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr