Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00694
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£33,882 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Campws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
5 Chwef 2025
Dyddiad Cyfweliad
14 Chwef 2025
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Gwahoddir ceisiadau am swydd Cynorthwy-ydd Ymchwil neu Swyddog Ymchwil cyfnod penodol mewn Modelu Digidol Uwch i alluogi dyfodol cynaliadwy a thrawsnewid i sero-net. Byddwch yn ymuno â grŵp ymchwil yr Athro Beckmann a'r Athro Giannetti ar Ddeallusrwydd Artiffisial Hybrid ar gyfer Diwydiant a Chymdeithas ym Mhrifysgol Abertawe, yn ogystal â'r gymuned ymchwil modelu, data a deallusrwydd artiffisial ehangach (y pwynt cyswllt cyntaf fydd yr Athro Beckmann) a'r gymuned ymchwil deunyddiau a gweithgynhyrchu ehangach (y pwyntiau cysywllt cyntaf fydd yr Athro Giannetti a'r Athro Pleydell-Pearce) yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gynnal ymchwil ac arloesi go iawn i hyrwyddo galluoedd Diwydiant 4.0 ar gyfer gweithgynhyrchu dur sy'n mynd i'r afael â chynaliadwyedd a thrawsnewid i sero net. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio'n agos gydag ymchwilwyr sy'n canolbwyntio ar ymagweddau a lywir gan ddata, ac academyddion ac ymchwilwyr mewn prifysgolion eraill yn y DU sy'n cyfrannu at SUSTAIN (gweler isod). Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o gymhwyso AI a/neu systemau rheoli gwybodaeth i unrhyw sector, gan gynnwys iechyd, trafnidiaeth, gwyddor gymdeithasol, etc.

Mae'r swydd hon yn rhan o Hyb Gweithgynhyrchu'r Dyfodol SUSTAIN a ariennir gan EPSRC (https://www.sustainsteel.ac.uk/). Prosiect cydweithredol, cyffrous yw SUSTAIN rhwng prifysgolion Abertawe, Warwig a Sheffield gan weithio gyda’r diwydiant dur yn y DU.

Bydd y prosiect hwn yn gysylltiedig â Hyb Arloesi Dur Digidol y DU SUSTAIN (https://www.sustainsteel.ac.uk/data-driven-innovation), gan gefnogi'r ddwy her fawr yn Hyb SUSTAIN sef  ‘Gweithgynhyrchu Dur a Haearn Carbon Niwtral, Dim Gwastraff’ a 'Phrosesu Dur Clyfar'. Mae'r prosiect hefyd yn gysylltiedig â'r Ganolfan Ymchwil 'Materials Made Smarter' fel rhan o 'Made Smarter Innovation' (https://www.madesmarter.uk/made-smarter-innovation/research-centres/), gan ymchwilio i'r cysyniad sy'n dod i'r amlwg sef Pasbortau Deunyddiau a'u defnyddiau yng nghyd-destun SUSTAIN ac MMSC fel hwylusydd cynaliadwyedd a sero net. Felly, rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n angerddol am gysylltu meysydd ffiseg / ymagweddau a lywir gan wybodaeth at fodelu gweithgynhyrchu dur drwy gydweithio ag ymchwilwyr a thimau eraill.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd GY7.docx Lawrlwytho Disgrifiad swydd SY8.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr