- Rhif y Swydd
- SU00813
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £23,177 i £23,177 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 10 Ebr 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 24 Ebr 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Ashley Akbari a.akbari@swansea.ac.uk
- Alysha Morgan a.l.morgan@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Bydd hwn yn interniaeth 3 mis o hyd yn gweithio 35 awr yr wythnos.
Yng ngrŵp Gwyddor Data Poblogaethau, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe rydym yn cynnal ystod o raglenni a mentrau ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang gan gynnwys: Y Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL) sy'n galluogi cynnal ymchwil i iechyd poblogaethau, sy'n cadw biliynau o gofnodion o ffynonellau data sy'n cynnwys poblogaeth Cymru. Y Platfform e-Ymchwil Diogel(SeRP) sef y datrysiad y gellir ei addasu'n llawn ar gyfer Amgylcheddau Ymchwil Dibynadwy. Porth Data Dementias Platform UK (DPUK), amgylchedd ystorfa a dadansoddi ar gyfer data cohort dementia. Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru sy'n dod ag arbenigwyr gwyddor data, academyddion blaenllaw a thimau arbenigol ynghyd yn Llywodraeth Cymru i greu tystiolaeth sy'n llywio dyfodol penderfyniadau polisi.
Mae ein gweithlu rhyngddisgyblaethol yn rhan o amryw o brosiectau a rhaglenni ymchwil o bwys, gan gynnal amrywiaeth o sgiliau methodolegol a chymhwysol ar draws disgyblaethau amrywiol i gefnogi a chyflawni ein harloesiadau sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang. Mae'r sgiliau hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddatblygu meddalwedd, datblygu a rheoli cronfeydd data, epidemioleg, Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, ystadegau, cloddio data, delweddu data, prosiectau sy'n ymwneud ag isadeiledd, datblygu gwefannau, hyfforddiant a chymorth ar gyfer y defnyddiwr, rheoli prosiectau a mwy.
Mae'r rhaglen interniaeth yr haf yn cynnig swydd daladwy 3 mis o hyd i fyfyrwyr sydd â diddordeb ennill, datblygu a chymhwyso eu sgiliau a phrofiad mewn amgylchedd byd-go iawn, diogel o'r radd flaenaf. Mae'n gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau gan weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol i wella eich profiad ar eich llwybr i gael cyflogaeth bellach, gydag ymgeiswyr sy'n gallu gweithio'n dda fel rhan o dîm yn ogystal â bod yn gyfrifol am eu gwaith ac mae ganddynt ddiddordeb mewn cyfrannu at ddarparu allbwn mesuradwy yn ystod eu hinterniaeth.
Mae'r interniaeth hon ar gael i'r holl raglenni gradd ym Mhrifysgol Abertawe neu mewn man arall. Bydd yn arbennig o berthnasol i fyfyrwyr o ddisgyblaethau sy'n meddu ar y sgiliau a'r arbenigedd a restrir uchod. Profiad yn unol â rhif adnabod prosiect Intern yn y Llyfryn Interniaid Haf (gweler sgiliau penodol a chefndir addas gerllaw pob rhif adnabod prosiect intern)
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.
Sylwer: Mae gennym swyddi mewn sawl maes prosiect, felly a wnewch chi gyflwyno cais i bob maes prosiect rydych yn dymuno cyrraedd y rhestr fer ar ei gyfer. A wnewch chi nodi'n glir yn eich llythyr eglurhaol pa rif prosiect rydych chi'n cyflwyno cais amdano a sut rydych yn bodloni gofynion yr 'Intern Data Gwyddor Poblogaethau - Rhif Prosiect' yr ydych yn cyflwyno cais amdano.
Sylwer nad oes cyllid ar gael ar ben y cyflog i dalu am gostau llety neu deithio.
Caiff interniaethau eu cynnig ar sail amser llawn, sef wythnos waith 35 awr, ond ceir ychydig o hyblygrwydd pan fydd angen.
Caiff myfyrwyr ar fisa haen 4 eu cyfyngu i weithio 20 awr yr wythnos, a myfyrwyr gradd Meistr 20 awr yr wythnos.
Rhannu Lawrlwytho Llyfryn - Prosiect 9 Lawrlwytho Disgrifiad swydd Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr