Mae’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg wedi’i chydnabod yn genedlaethol ac yn fyd-eang fel canolfan ragoriaeth sy’n darparu amgylchedd addysgu arloesol a chynhwysol sy’n creu dysgwyr gydol oes wedi’u paratoi ar gyfer yr economi fyd-eang.
Trwy ein hystod o gyfleoedd astudio israddedig ac ôl-raddedig, ein nod yw galluogi myfyrwyr i ddatblygu’r potensial i ddod yn arweinwyr ac yn bencampwyr diwydiant y dyfodol, neu i feddu ar y gallu i fynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd ar gyfer gyrfa ym maes ymchwil.
Trwy ganolfannau ymchwil o safon fyd-eang a buddsoddi’n barhaus yn ein hadnoddau a’n cyfleusterau neilltuol, rydym yn darparu amgylchedd rhagorol i astudio neu gynnal ymchwil.