
Myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith Abertawe yn ennill Cystadleuaeth Ffug Lys Barn Prifysgolion 2025 y Deml Fewnol
Ar 2 Chwefror 2025, cynrychiolodd dau fyfyriwr Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton Prifysgol Abertawe mewn cystadleuaeth ffug lys barn o fri, a gynhaliwyd gan Ysbyty'r Frawdlys y Deml Fewnol: un o bedwar Ysbyty'r Frawdlys sy'n gartref i Far Cymru a Lloegr. Drwy gydol y diwrnod (hir iawn), bu Amelia Triaca, sydd yn y flwyddyn olaf, a Keara-Lynn Douglas yn yr ail flwyddyn (sy'n rhan o'r rhaglen gradd ddeuol gyda Phrifysgol Trent), yn cyflwyno ar senario cyfraith contract dychmygol cyfarwydd iawn a oedd yn cynnwys cwestiwn am gymalau cosb mewn perthynas â dirwyon parcio. Gan gynrychioli'r Apeliwr a'r Ymatebwr ar adegau amrywiol, gwnaethant ddadlau dros y ddwy ochr â'r un ymrwymiad a nerth a chawsant eu gwobrwyo drwy gael eu henwi ymhlith yr wyth tîm gorau a symudodd ymlaen i'r rowndiau dileu ar ôl dwy rownd (yn dilyn cystadlaethau ffug lys barn yn erbyn Prifysgol Metropolitan Llundain a Phrifysgol Sheffield).
Ar ôl cinio yn Neuadd yr Ysbyty, aethant ymlaen i drechu timau eraill o Brifysgol Nottingham a Phrifysgol Caerefrog cyn cystadlu yn erbyn Prifysgol Durham yn y rownd derfynol. Ar ôl cystadleuaeth ddwys, a chan gynrychioli'r ochr wannaf yn y rownd derfynol, datganodd y beirniaid, y Meistr Ddarllenydd Helen Davies CB, y Meistr Kabir Sheikh CB a'r Meistr Caroline Willbourne mai Abertawe oedd y tîm buddugol. Roedd hyn yn gyflawniad gwych gan Amelia a Keara-Lynn sydd ill dwy'n weithgar yn y rhaglen sgiliau cyfathrebu allgyrsiol yn Ysgol y Gyfraith. Cyflwynwyd gwobrau iddynt, gan gynnwys Cwpan y Brenin a gafodd ei gyflwyno i'r Ysbyty gan Frenin Bhutan ac a enillwyd am y tro diwethaf yn 2024 gan Brifysgol Rhydychen.
Meddai Amelia, "Roedd ennill Cystadleuaeth Ffug Lys Barn y Deml Fewnol yn un o brofiadau mwyaf balch fy mywyd, ac roedd hi'n fraint bur gen i gynrychioli Prifysgol Abertawe ."
Meddai Keara-Lynn, "Roedd cystadlu yng Nghystadleuaeth Ffug Lys Barn y Deml Fewnol yn gyfle anhygoel i'n herio ein hunain a datblygu ein sgiliau eirioli. Roedd lefel y cystadlu yn ardderchog."
Mae'r cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau sy'n canolbwyntio ar eiriolaeth, negodi, cyfweld â chleientiaid a chyfryngu yn elfen ganolog o'r dysgu drwy brofiad sydd ar gael i fyfyrwyr yn Ysgol y Gyfraith Abertawe a chyflawniadau Amelia a Keara-Lynn yw'r rhai diweddaraf mewn cyfres o ganlyniadau gwych i Raglen Gyfathrebu Ysgol y Gyfraith.