Drwy gydol 2024, mae ymchwil a gynhaliwyd gan aelodau'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) wedi parhau i gyfrannu at ddatblygu cyfraith achosion ac athrawiaethau/cysyniadau cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig a thramor.

Cafodd pennod (Pennod 33) a ysgrifennwyd gan yr Athro George Leloudas yn Shawcross and Beaumont, y llyfr mwyaf blaenllaw ar Gonfensiwn Montreal 1999 i ymarferwyr, ei dyfynnu gan New South Wales Court of Appeal yn yr achos Air Canada v Evans [2024] NSWCA 153.

Cyfeiriwyd at un o'r erthyglau a gyhoeddwyd gan yr Athro Simon Baughen yn Lloyd's Maritime and Commercial Law Quarterly in 2008 - Economic Loss Claims and the Hague-Visby Gross Weight Limitation Figure - yn yr Uchel Lys yn [102] Trafigura Pte LtdTKK Shipping Pte Ltd [2023] EWHC 26 (Comm).

Hefyd, mae gwaith yr Athro Andrew Tettenborn wedi'i ddyfynnu gan lysoedd amrywiol yn Lloegr (gan gynnwys y Goruchaf Lys). Yr Athro Tettenborn yw Prif Olygydd y testun arloesol Tort Law (Clerk & Lindsell) bellach ar rifyn 24ain - ac mae'r penodau a ysgrifennwyd ganddo wedi cael eu dyfynnu yn yr achosion canlynol hyd yn hyn yn 2024:

  • Njord Partners SMA -Seal LP v Astir Maritime Ltd [2024] EWHC 1682 (Comm) ym Mhennod [150] 17 Clerk & Lindsell
  • Groen v Heath [2024] EWHC 1654 (Ch) ym [36], [59] Mhennod 17 Clerk & Lindsell
  • Norman Hay Plc v Marsh Ltd [2024] EWHC 1039 (Comm) yn [44], [65]
    Clerk & Lindsell, Pennod 9
  • GI Globinvestment Ltd v XY ERS UK Ltd [2024] EWHC 481 (Comm) ym [107]
    Mhennod 17 Clerk & Lindsell
  • Lowry Trading Ltd v Musicalize Ltd [2024] EWHC 142 (Comm) ym [44]-[46]
    Mhennod 17 Clerk & Lindsell
  • Paul v Royal Wolverhampton NHS Trust [2024] UKSC 1 ym [134]
    Mhennod 9 Clerk & Lindsell
  • Cannell v George [2024] UKSC 19 ym Mhennod 1 [141] Clerk & Lindsell

Rhannu'r stori