Bydd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Forwrol Dalian yn lansio gradd israddedig ddwbl newydd (LLB mewn Cyfraith Forwrol) a disgwylir i'r garfan gyntaf o fyfyrwyr ddechrau ym mis Medi 2024.

Caiff y radd hon ei haddysgu yn Dalian a gall myfyrwyr ddewis astudio yn Abertawe am flwyddyn olaf eu hastudiaethau LLB. Ar ddiwedd y cyfnod pedair blynedd, bydd y rhai sy'n cwblhau'r cwrs yn derbyn gradd israddedig gan y ddwy brifysgol. 

Cafodd y radd arloesol hon, sy'n canolbwyntio ar gyfraith fasnachol a morwrol, ei chymeradwyo gan yr Adran Addysg yn Tsieina yn dilyn proses graffu drylwyr, a chafodd ei lansio'n ffurfiol ar 12 Mehefin 2024 mewn seremoni rithwir ym mhresenoldeb uwch-dimau rheoli'r ddwy brifysgol.

Yn ystod y lansiad, cynrychiolwyd Prifysgol Abertawe gan yr Athro Paul Boyle (Is-ganghellor), yr Athro Judith Lamie (Dirprwy Is-ganghellor), yr Athro Ryan Murphy (Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol), yr Athro Alison Perry (Pennaeth Ysgol y Gyfraith) a'r Athro Bariş Soyer (Cyfarwyddwr y Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol)

Cynrychiolwyd Prifysgol Forwrol Dalian gan yr Athro Hongjun SHAN (Llywydd DMU), Dr Jinlei ZHANG (Deon y Coleg Cydweithredu Rhyngwladol), yr Athro Zuoxian ZHU (Deon Ysgol y Gyfraith), Dr Xingguo CAO (Cyfarwyddwr y Rhaglen) a Ms Shihui YU (Dirprwy Gyfarwyddwr y Rhaglen).

Yn ystod y digwyddiad lansio, dywedodd yr Athro Boyle fod cyfraith forwrol yn un o gryfderau arbennig Prifysgol Abertawe a, thrwy alinio'r arbenigedd hwnnw ag arbenigedd Prifysgol Forwrol Dalian yn y maes hwn, bydd Abertawe'n cynhyrchu graddedigion a chanddynt apêl fyd-eang.

Ychwanegodd ei sicrwydd y byddai'r cydweithrediad hwn yn helpu i ehangu gwaith ymchwil ar y cyd rhwng ein dau sefydliad. Yn ôl yr Athro Shan, dyma gydweithrediad rhwng "dau o gewri'r maes" a llongyfarchodd bawb a fu’n rhan o gyflawni'r bartneriaeth hon.

Rhannu'r stori