Bu Cyfarwyddwr Menter ac Arloesi'r Ysgol Reolaeth, Louisa Huxtable-Thomas, ynghyd ag Owen Davies, myfyriwr MA mewn Marchnata Strategol sydd ar leoliad gwaith, yn bresennol yn y digwyddiad a gynhaliwyd yn Neuadd Brangwyn ym mis Gorffennaf i ddathlu 70 o flynyddoedd ers sefydlu Clwb Busnes Bae Abertawe.
Denodd y digwyddiad 400 o arweinwyr busnes o ranbarth Bae Abertawe, gan gynnwys sawl cyn-lywydd: y Dirprwy Arglwydd Faer, y Cyng. Mark Child, y Barnwr John Collins a'r Canwr Opera, Wynne Evans. Gwahoddwyd yr Ysgol i ymuno â'r Llywydd Gweithredol, Alan Brayley (yn y llun), a'i westeion arbennig ar y prif fwrdd. Mae'r Ysgol Reolaeth yn edrych ymlaen at noddi tymor digwyddiadau Clwb Busnes Bae Abertawe yn 2020. Roedd y Llywydd Dros Dro, Alan Brayley, am bwysleisio i'r tîm bod aelodau'r Clwb Busnes yn awyddus i gydweithio'n agosach â'r Ysgol Reolaeth, drwy gynnig lleoliadau gwaith neu fentora myfyrwyr, yn ogystal â hysbysu'r Ysgol am yr hyn mae cyflogwyr yn gofyn amdano gan raddedigion sy'n ceisio gwaith.
Meddai Louisa, "Rydyn ni wedi gwneud dechrau gwych eisoes! Roedd mynd â myfyriwr lleoliad gwaith mor addawol a thalentog ag Owen yn goron ar y cyfan. Mae'n llysgennad gwych dros raglenni lleoliad gwaith yr Ysgol a ches i fy atgoffa unwaith eto pam mae myfyrwyr wrth wraidd ein holl weithgarwch. Rwy'n benderfynol y bydd yr Ysgol o werth i'n cymuned, boed drwy ein hymchwil, ein haddysgu neu ein gweithgareddau ymgysylltu, a gall y math hwn o aelodaeth ein helpu i wireddu ein nod."