Mae tri academydd o'r Ysgol Reolaeth wedi derbyn y Wobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA).
Yn ein seremoni raddio ym mis Gorffennaf, dathlodd yr Ysgol Reolaeth garfan graddedigion 2022. Yn ystod y seremoni, rhoddwyd tair gwobr dysgu ac addysgu i'r aelodau staff canlynol o'r Ysgol Reolaeth:
Emma James (sydd wedi ennill y wobr hon am yr eildro!)
Mae Gwobr Rhagoriaeth mewn Dysgu ac Addysgu (ELTA) Abertawe yn cael ei rhoi’n flynyddol i staff sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i brofiad dysgu myfyrwyr.
Bwriad y wobr yw adlewyrchu gwerthfawrogiad myfyrwyr o ansawdd yr addysgu a'r gefnogaeth a gawsant, gyda'r holl fyfyrwyr yn cael cyfle i enwebu un o'u hathrawon neu aelodau eraill o staff am y gwobrau hyn a chydnabod rhagoriaeth unigol.
Dywedodd yr Athro Paul Jones, Pennaeth yr Ysgol Reolaeth:
"Yn y seremoni raddio ddiweddaraf ym mis Gorffennaf, roedd yn hyfryd i'r Ysgol Reolaeth allu cydnabod llwyddiannau nifer o'n cyfadran a gafodd eu cydnabod am ennill gwobrau Addysgu a Dysgu. Caiff y gwobrau hyn eu henwebu gan fyfyrwyr, efallai'r gydnabyddiaeth eithaf o addysgu ac ymarfer dysgu rhagorol. Bu'n flwyddyn heriol arall gydag effeithiau gweddilliol y pandemig a streiciau yn cael effaith ar brofiad myfyrwyr. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle i longyfarch Paul Davies, Emma James (sydd wedi ennill y wobr hon am yr eildro) a Dr Anita Zhao am eu llwyddiant yn ennill y gwobrau hyn oherwydd eu gwaith caled, eu hymrwymiad ac wrth gwrs ymarfer addysgu a dysgu rhagorol. Maen nhw'n esiampl i ni gyd! Llongyfarchiadau mawr eto."