Roedd hi'n fraint yn ddiweddar gan Brifysgol Abertawe groesawu grŵp o gynrychiolwyr nodedig o Brifysgol Olabisi Onabanjo yn Nigeria.
Roedd y grŵp yn cynnwys Is-ganghellor Prifysgol Olabisi Onabanjo, yr Athro Ayodeji Olayinka Johnson Agboola, a'r Athro Joseph Ashidi. Diben eu hymweliad oedd archwilio cydweithrediadau posib mewn mentrau datblygu cwricwlwm ac ymchwil.
Un o uchafbwyntiau'r ymweliad oedd cyfarfod rhwng Is-gangellorion y ddwy brifysgol, yr Athro Paul Boyle o Brifysgol Abertawe a'r Athro Agboola o Brifysgol Olabisi Onabanjo. Roedd y cyfarfod hwn yn gyfle i drafod diddordebau cyffredin a meysydd cydweithredu posib.
Roedd yr ymweliad hefyd yn barhad prosiect gan y British Council dan arweiniad Dr Samuel Ebie a osododd y sylfeini i'r ddau sefydliad gydweithredu yn y dyfodol.
Mynegodd yr Athro Paul Jones, Pennaeth Ysgol Reolaeth Prifysgol Abertawe, ei frwdfrydedd am yr ymweliad, gan ddweud "Roedd hi'n bleser mawr gennym groesawu'r Is-ganghellor, yr Athro Agboola, a'r Athro Ashidi. Cawson ni drafodaeth gynhyrchiol, ac rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithredu ymhellach ym meysydd ymchwil a'r cwricwlwm yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."
Mae'r ymweliad gan gynrychiolwyr Prifysgol Olabisi Onabanjo yn nodi cam pwysig wrth gryfhau partneriaethau rhyngwladol a meithrin cyfnewid academaidd rhwng Prifysgol Abertawe a sefydliadau yn Nigeria. Rhagwelir y bydd yr ymweliad hwn yn arwain at gyfleoedd cyffrous ar gyfer prosiectau ymchwil ar y cyd, cyfnewid myfyrwyr a mentrau cydweithredol eraill yn y dyfodol.