Cefnogi iechyd a lles pobl yn ne orllewin Cymru

Mae'r Academi Iechyd a Lles yn cynnig ystod o wasanaethau fforddiadwy a hyblyg i gefnogi cymuned De Orllewin Cymru.

Mae ein gwasanaethau'n cyflenwi’r rhai a ddarperir gan y GIG ac yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau ffordd o fyw gwybodus a chadarnhaol i wella eu hiechyd a'u lles, mae'r gwasanaethau'n cynnwys: osteopathi, awdioleg, gofal profedigaeth, cardioleg a gwasanaethau sy'n ymwneud â beichiogrwydd, gan gynnwys cymorth bwydo ar y fron, hypno-geni, cefnogaeth ôl-enedigol a rhianta cadarnhaol.

Mae ymchwil yn elfen bwysig o'r Academi sy'n tynnu ar gryfder ymchwil y Coleg, gan ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu o'r radd flaenaf sydd â'r nod o uchafu buddion i'r gymuned ehangach.