Pam astudio Gwyddorau Meddygol yn Abertawe?

Yma ym Mhrifysgol Abertawe, rydym o ddifri am y gwyddorau biofeddygol a natur drawsnewidiol y sector hwn i iechyd, cyfoeth a lles ein cymunedau'n fyd-eang. Ein cenhadaeth yw defnyddio ein gwybodaeth wyddonol i wella canlyniadau iechyd cleifion go iawn.

Mae ein graddau BSc ac MSci israddedig yn cynnig cyfle i chi arbenigo ym meysydd gwahanol y gwyddorau biofeddygol, deall sut mae'r corff yn gweithio, sut mae'n ymateb i ysgogiadau gwahanol a sut gall y ddealltwriaeth hon gyflwyno gofal iechyd sy'n benodol i'r unigolyn. Mae gwybodaeth o'r fath o gymorth i ni wrth i ni archwilio a goresgyn yr heriau mwyaf rydym yn eu hwynebu fel rhywogaeth ac wrth i ni baratoi ein myfyrwyr at fynd i'r afael â'r heriau hyn yn uniongyrchol fel gwyddonwyr.

Mae ein rhaglenni yn y gwyddorau biofeddygol yn y safleoedd uchaf yn rheolaidd yn y tablau cynghrair cenedlaethol. Er enghraifft, gwnaethom gyrraedd y 12fed safle yn y DU ar gyfer y gwyddorau biofeddygol yn ôl The Complete University Guide (2024) ac yn ôl The Guardian (2024), Prifysgol Abertawe yw'r brifysgol orau yng Nghymru ar gyfer y gwyddorau biofeddygol.

Newydd ar gyfer 2024

Bydd ein graddau rhyngddisgyblaethol newydd, sef BSc Microbioleg ac Imiwnoleg a BSc Microbioleg ac Imiwnoleg gyda Blwyddyn Sylfaen yn cyfuno meysydd Microbioleg ac Imiwnoleg, gan ganolbwyntio ar sut maent yn rhyngweithio â'i gilydd mewn ymateb i glefydau heintus ynghyd ag ystyried anhwylderau a geir o ganlyniad i system imiwnedd sy'n camweithio.

Eich Opsiynau

  1. Nid yw'n rhy hwyr i gyflwyno cais drwy UCAS Extra. Gweler ein harweiniad ar UCAS Extra i gael gwybod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i roi cynnig arall ar gyflwyno cais i'ch cwrs delfrydol. 

    Arweiniad ar UCAS Extra

  2. Fel arall, os ydych chi'n poeni am eich graddau sydd ar ddod, gallwch chi rag-gofrestru ar gyfer clirio nawr.

Mae eich gyrfa yn dechrau yma

Mae gan ein graddau israddedig mewn gwyddor bywyd wedi gwreiddio ynddynt, ffocws gyrfaoedd. P'un a ydych chi'n chwilio am Lwybr at Feddygaeth ac yn gwireddu eich breuddwyd o ddod yn feddyg, neu'n dymuno dilyn un o'n graddau ymchwil dwys MSci a sefydlu'ch hun ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa mewn ymchwil, mae gan ein cyrsiau a'n darlithwyr eich gyrfa mewn golwg.

Diddordeb mewn meddygaeth?

Mae llawer o'n graddau Gwyddor Bywyd hefyd yn Llwybrau at Feddygaeth, sy'n cynnig y cyfle am gyfweliad gwarantedig ar gyfer Meddygaeth i Raddedigion, gan eich helpu i gyflawni eich uchelgais i astudio Meddygaeth a dod yn Feddyg.

Ein heffaith ymchwil

I’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfa ym maes ymchwil, byddwch yn ymuno â sefydliad sydd ag enw rhagorol am ymchwil, fel y cydnabyddir gan berfformiad cryf iawn yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF2021) gan arwain at welliannau iechyd i gleifion, i ddiwydiant a’r cyhoedd yn ehangach.

Cewch eich addysgu gan academyddion sy’n arwain y byd a chael eich amgylchynu gan ymchwilwyr o safon fyd-eang sydd ar flaen y gad o ran ymchwil arloesol ym maes gwyddor bywyd sy’n archwilio’r problemau byd-eang sy’n ein hwynebu ym maes iechyd.

Blog Myfyriwr: Ffion Evans, MSci Biocemeg

Astudiodd Ffion Biocemeg ym Mhrifysgol Abertawe, gan raddio gyda'i Msci yn 2020. Dyma ei phrofiad o astudio yn Abertawe:

"Wrth benderfynu ar brifysgol, roedd y cyfle i astudio trwy’r Gymraeg yn bwysig iawn i mi. Roedd Prifysgol Abertawe yn cynnig y cwrs Biocemeg yn rhannol trwy’r Gymraeg. Wrth ddod i ddiwrnod agored roedd y campws yn teimlo’n gartrefol i mi ac roedd y staff yn gyfeillgar, yn gefnogol ac yn frwdfrydig iawn am y cwrs.

Yn yr ysgol, Bioleg a Chemeg oedd fy hoff bynciau. Mae gen i ddiddordeb mawr yn y newidiadau sy’n digwydd yn y corff wrth ddioddef o glefydau gwahanol, yn enwedig cyflyrau niwroddirywiol. 

Felly, roedd astudio Biocemeg yn ehangu fy nealltwriaeth o’r pynciau yma a chefais gyfle i wneud prosiect ymchwil ar glefyd niwroddirywiol yn fy mhedwaredd flwyddyn."

 

Am ddarganfod mwy am Abertawe?

Wedi'ch ysbrydoli i astudio gradd Gwyddor Feddygol? Cymerwch amser i archwilio ein campws o gysur eich cartref eich hun gan ddefnyddio ein taith rithwir, siaradwch â rhai o'n myfyrwyr presennol am sut beth yw astudio yn Abertawe a gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru ar gyfer ein Diwrnod Agored nesaf lle gallwch chi brofi Abertawe, ein cymuned a'n cyrsiau yn bersonol.