Ydy nyrsio yn eich calon o hyd? Dewch yn ôl i'r yrfa rydych yn dwlu arni.

Dychwelyd i Ymarfer: Côd Modiwl SHN3106 

Mae’r cwrs Dychwelyd i Ymarfer yn paratoi nyrsys i ddychwelyd i’w maes gofal nyrsio mewn meysydd clinigol deinamig a heriol heddiw ac yn galluogi nyrsys y mae eu cofrestriad wedi darfod i ddychwelyd i ymarfer. 

Yng Ngwobrau'r Student Nursing Times, cyhoeddwyd bod yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi ennill y wobr 'Cwrs Dychwelyd i Ymarfer y Flwyddyn, 2015'.  Dywedodd y beirniaid fod y cwrs "wedi dangos dealltwriaeth glir bod adeiladu hyder a dulliau creadigol yn allweddol i gwrs Dychwelyd i Ymarfer. [Mae'r staff] yn ymdrechu'n gyson i wella a gwerthuso'r dysgu."

 

Rhagor o wybodaeth am y cwrs Dychwelyd i Ymarfer