Yn 2018-19 roedd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), ynghyd ag Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Cymru (WSSCR), yn un o ddeg safle gwely prawf ar gyfer Safonau Cyfranogiad Cyhoeddus NIHR mewn Ymchwil; yr unig un yng Nghymru.
Mae'r safonau wedi'u hanelu at bobl a sefydliadau sy'n gwneud ymchwil, yn cefnogi ymchwil ac yn cynnwys y cyhoedd er mwyn gwella ymchwil. Eu bwriad yw darparu fframwaith ar gyfer myfyrio a gwella pwrpas, ansawdd a chysondeb cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil. Mae'r safonau'n disgrifio'r blociau adeiladu ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn dda ac yn darparu llinell sylfaen o ddisgwyliadau. Mae hyn yn helpu'r cyhoedd i wybod beth i'w ddisgwyl wrth ymwneud ag ymchwil, ac mae ymchwilwyr yn gwybod beth sydd angen ei wneud.
Y chwe safon yw:
- Cyfleoedd
Cynnig cyfleoedd cynnwys y cyhoedd sy'n hygyrch ac sy'n cyrraedd pobl a grwpiau yn unol ag anghenion ymchwil.
- Gweithio Gyda’n Gilydd
Cydweithio mewn ffordd sy'n gwerthfawrogi pob cyfraniad, ac sy'n adeiladu ac yn cynnal perthnasoedd parchus a chynhyrchiol i'r ddwy ochr.
- Cefnogi ac Dysgu
Cynnig a hyrwyddo cefnogaeth a chyfleoedd dysgu sy'n magu hyder a sgiliau ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd mewn ymchwil.
- Cyfathrebiadau
Defnyddio iaith glir ar gyfer cyfathrebiadau perthnasol wedi'u hamseru'n dda, fel rhan o ymglymiad
- Effaith
Ceisio am welliant trwy adnabod a rhannu'r gwahaniaeth y mae cyfranogiad y cyhoedd yn ei wneud i ymchwil.
- Rheolaeth
Cynnwys y cyhoedd mewn rheoli ymchwil, rheoleiddio, arwain a gwneud penderfyniadau.
Yn ystod y flwyddyn brawf bu staff yn CADR a WSSCR yn archwilio ac yn gweithio gyda'r safonau, gan edrych ar ba mor dda yr oeddent yn integreiddio ag ymarfer, yn ogystal â gweld sut y gallem ddysgu o'u cymhwyso i'n gweithgareddau ymgysylltu. Fe wnaethom ddarparu adborth i NIHR a hefyd darparu nifer o astudiaethau achos a amlygodd weithrediad y safonau i wella ein gweithgareddau ymgysylltu â'r cyhoedd.
Mae tair o'r astudiaethau achos hyn bellach wedi'u hymgorffori mewn llawlyfr a luniwyd gan NIHR o'r enw Safonau’r DU ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd: Straeon Gweithredu. Dewiswyd y straeon i ddangos rhai ffyrdd gwahanol y gweithredwyd y safonau a'u hintegreiddio i weithgaredd ymchwil gan y gwahanol sefydliadau sy'n rhan o'r cyfnod profi, ynghyd â rhai myfyrdodau ar y profiad. Rhifau 10, 13 ac 16 yw straeon CADR.
Darllen fwy am Safonau’r DU ar gyfer Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Ymchwil