Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi croesawu Salvatore Ferla i’w rhaglen gradd newydd mewn Ffarmacoleg sy’n dechrau ym mis Medi 2021.
Bydd Dr Ferla yn arwain datblygiad thema cemeg fferyllol y Radd Meistr integredig (MPharm) mewn Ffarmacoleg sy’n para am bedair blynedd, a bydd yn helpu myfyrwyr i ddysgu hanfodion cemeg fferyllol a meddyginiaethol gan ddilyn trefniadau’r Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
O ganlyniad i’w brofiad helaeth ym maes cemeg feddyginiaethol ac ymchwil i ddarganfod cyffuriau, bydd y myfyrwyr hefyd yn cael profiad o amgylchedd addysgu sy’n seiliedig ar ymchwil, lle byddant drwy’r amser yn cael y diweddaraf am bynciau llosg yr ymchwil ddiweddaraf ym maes darganfod cyffuriau.
Meddai: “Mae symud i Abertawe’n garreg filltir bwysig yn fy natblygiad personol fel ymchwilydd ac academydd.
“Fel ymchwilydd, mae hyn yn cynrychioli’r cam cyntaf tuag at y nod hirdymor sydd gennyf ar gyfer fy ngyrfa – sef bod yn wyddonydd sefydledig ag enw rhyngwladol, a chael fy ngrŵp academaidd fy hun sy’n ymchwilio i gemeg feddyginiaethol, sy’n gystadleuol iawn ac sy’n gweithio ym meysydd gwahanol i ddarganfod cyffuriau.
“Fel academydd, rwyf yn gobeithio cyfrannu’n gadarnhaol at y radd newydd hon a gallu datblygu, gyda fy nghydweithwyr newydd, gwrs MPharm modern sy’n seiliedig ar ymagwedd ryngddisgyblaethol ac integredig, er mwyn rhoi sail gadarn i fyfyrwyr a’u paratoi ar gyfer bod yn weithwyr proffesiynol â sgiliau uwch. Byddant yn gallu bod yn fferyllwyr cyflawn a chystadleuol, a chychwyn yn llwyddiannus ar lwybrau gyrfaol gwahanol ym maes ffarmacoleg hefyd.”
Graddiodd Dr Ferla mewn Cemeg Fferyllol yn 2008 ym Mhrifysgol Padova (yr Eidal) pan wnaeth gofrestru’n fferyllydd cymwysedig hefyd.
Ar ôl gweithio ym myd diwydiant, enillodd PhD mewn Cemeg Feddyginiaethol o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd. Yn ystod yr un flwyddyn, dechreuodd ei brofiad ôl-ddoethurol cyntaf gyda’r Athro Chris McGuigan, gan ddatblygu cyfryngau gwrthganser wedi’u fflworeiddio newydd er mwyn trin canser y brostad.
Yn 2015, fe’i penodwyd yn gyfrifol ar y cyd am Blatfform Modelu Moleciwlaidd WCADD ac yn ystod y cyfnod hwn, cyfranogodd yn weithredol mewn mwy na 40 prosiect ymchwil, gan gynnwys grwpiau academaidd a grwpiau biotechnegol bach o bob cwr o’r byd.
Yn 2017, ymunodd â phrosiect yn ymwneud ag atalyddion CtlP a ariannwyd gan Wobr Effaith Rhwydwaith Gwyddorau Bywyd Cymru.
Y flwyddyn ganlynol, enillodd Gymrodoriaeth Ymchwil Unigol SÊR CYMRU III, gan weithio i ddatblygu moleciwlau bach arloesol i fod yn imiwno-addaswyr posibl ar gyfer trin canserau gwahanol.
Mae ei ymchwil yn cynnwys llunio a chyfuno ar gyfrifiadur foleciwlau bach newydd a chanddynt actifeddau biolegol posibl, gan gynnwys cyfryngau gwrthganser, gwrthfirol a gwrthlynghyrol newydd.
Hefyd, mae Dr Ferla wedi cyhoeddi mwy na 35 erthygl ymchwil ar y cyd mewn cyfnodolion gwyddonol gwahanol a adolygwyd gan gymheiriaid.
Ychwanegodd: “Mae cael cyfle i gyfrannu’n bersonol at ddatblygu gradd MPharm newydd ar y cychwyn cyntaf yn gyfle gwych. Oherwydd bod tîm academaidd yr adran ffarmacoleg yn eithaf ifanc, bydd yn creu amgylchedd a deinameg dymunol i weithio ynddo.”