Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00370
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£25,138 i £27,979 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
Lleoliad
Campws Singleton, Abertawe
Dyddiad Cau
30 Meh 2024
Dyddiad Cyfweliad
8 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Mae'r Adran Partneriaethau Academaidd yn cynorthwyo'r Brifysgol a'r Cyfadrannau wrth ddatblygu a rheoli partneriaethau dysgu ac addysgu â sefydliadau a chyrff addysg blaenllaw yn y DU ac yn rhyngwladol. Wrth i'r Brifysgol ganolbwyntio ar ehangu ei darpariaeth addysg drawswladol (addysg Prifysgol Abertawe wedi'i chyflwyno'n rhyngwladol mewn sefydliadau partner), mae gwaith yr Adran a nifer a graddfa'r prosiectau wedi cynyddu'n sylweddol. Bydd y rôl hon yn gofyn i chi ddarparu cymorth gweinyddol i dimau prosiect, gan gynnwys swyddogaethau gweinyddol penodol sy'n angenrheidiol i sicrhau bod partneriaethau cydweithredol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu'n effeithiol, a dyletswyddau sy'n ymwneud â rheoli a gweithredu'r swyddfa. Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus reoli cofnodion partneriaethau; darparu cymorth wrth drefnu cyfarfodydd, cymryd cofnodion, llunio adroddiadau a chyda gweithgareddau dilynol, yn ogystal â gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phartneriaethau, megis monitro sicrwydd ansawdd, rheoli gweithgareddau beunyddiol yr Adran, gan gynnwys bod yn brif gyswllt ar gyfer ymholiadau, ac ymgymryd â dyletswyddau ariannol yn ôl yr angen.

Disgwylir i ddeiliad y swydd fod yn gymwys wrth ddefnyddio cymwysiadau Microsoft, MS Teams, SharePoint, cronfeydd data a systemau rheoli ariannol. Disgwylir i ddeiliad y swydd feddu ar brofiad addas mewn rôl debyg a bod yn gyfarwydd â phrosesau'r Brifysgol neu sefydliadau tebyg. Mae sgiliau cyfathrebu ardderchog, gan gynnwys y gallu i gysylltu â staff mewn rolau uwch yn y Brifysgol a chyrff allanol, yn hanfodol i'r rôl hon.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

I gyflwyno cais am y swydd hon, gofynnir i chi ddarparu CV a llythyr eglurhaol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn esbonio sut rydych yn bodloni'r fanyleb person fel y'i nodir yn y disgrifiad swydd drwy amlygu eich cymwysterau, eich sgiliau a'ch profiad perthnasol mewn llythyr eglurhaol.

Rhannu

Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Lawrlwytho PS-Candidate-Brochure-(CY).pdf Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr