Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00412
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£38,205 i £44,263 y flwyddyn
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
17 Gorff 2024
Dyddiad Cyfweliad
22 Gorff 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Trytsan Watson t.m.watson@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Rydym yn dymuno penodi ymgeisydd uchel ei gymhelliant i arwain gweithgareddau ymchwil sy'n gysylltiedig â deunyddiau ffotofoltäig organig (OPV) yn y grŵp. Bydd y gwaith yn canolbwyntio ar ddatblygu gweithgareddau prosesu, uwchraddio a gweithgynhyrchu celloedd ffotofoltäig organig ar gyfer arwynebeddau mawr (gan gydbwyso effeithlonrwydd, sefydlogrwydd, gweithgynhyrchu gwyrdd a chost OPV)


Bydd y gwaith yn cynnwys cynhyrchu dyfeisiau OPV arwynebedd mawr sy'n ddichonadwy yn ddiwydiannol ac yn sefydlog yn dilyn mewnbynnau ynghylch deunyddiau a phensaernïaeth dyfais gan aelodau eraill o gonsortiwm ATIP. Y brif dasg fydd datblygu prosesau ac offeryniaeth ar gyfer gweithgynhyrchu rhôl i rôl modiwlau OPV oes hir ar swbstradau hyblyg.

Mae ATIP yn rhaglen grant gwerth £6 miliwn a ariennir gan yr EPSRC ac a arweinir gan Brifysgol Abertawe, mewn cydweithrediad agos â Choleg Imperial Llundain a Phrifysgol Rhydychen. Cefnogir yr ymchwil yn agos gan 12 o bartneriaid diwydiannol allweddol. Y prif amcan yw darparu'r wyddoniaeth a'r beirianneg sy'n sail i sbarduno diwydiant i roi’r genhedlaeth nesaf o ddeunyddiau ffotofoltäig organig a ffotofoltäig perofsgit (PV) ar waith mewn cymwysiadau integredig lle mae angen technolegol clir.

Gallwch gael mwy o fanylion am y prosiect/adran yma –

ATIP Application Targeted and Integrated Photovoltaics - Prifysgol Abertawe

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar: PhD mewn Cemeg, Gwyddor Deunyddiau, Ffiseg neu ddisgyblaeth gysylltiedig. Hanes cryf o arbenigedd yn y genhedlaeth nesaf o dechnolegau PV. Sgiliau arbrofi rhagorol a gwybodaeth gadarn am faes deunyddiau ffotofoltäig argraffedig, yn enwedig deunyddiau ffotofoltäig organig. Profiad ymarferol o beirianneg, awtomeiddio a phrosesu data. Profiad o gynnal a dogfennu arbrofion gwyddonol a phrosesu a dadansoddi data. Dylai ddarparu tystiolaeth o gymryd rhan bersonol wrth ysgrifennu a chyhoeddi papurau ymchwil, yn enwedig ar gyfer cyfnodolion a adolygir, a chyfrannu at y gwaith hwn. Dylai ddangos y gallu i gymryd rhan weithredol wrth gynllunio ymchwil ac ysgrifennu ceisiadau am gyllid ymchwil allanol, neu gyfrannu at y gwaith hwn.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Rhannu

Lawrlwytho FSE-Candidate-Brochure-(CY).pdf Lawrlwytho Disgrifiad swydd.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr