- Rhif y Swydd
- SU00490
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £22,277 i £22,277 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Marchnata, Recriwtio a Rhyngwladol
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 28 Awst 2024
- Dyddiad Cyfweliad
- 12 Medi 2024
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Gethin Jones g.r.jones@swansea.ac.uk
- Sarah Griffin s.griffin@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Dyma gyfle cyffrous i chi ddod yn rhan o Dîm Profiad Myfyrwyr y Dyfodol ym Mhrifysgol Abertawe gan weithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer darpar fyfyrwyr a'u dylanwadwyr a darparu gwasanaeth a phrofiad ardderchog i gwsmeriaid ar draws ystod o sianeli ymholiad. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi ein Myfyrwyr y Dyfodol drwy eu taith fel ymgeisydd, o'r ymholiad cyntaf a'r cais hyd at gofrestru a sefydlu.
Rydym yn dymuno penodi chwaraewyr tîm rhagweithiol, deinamig a chyfeillgar sy'n angerddol am wasanaeth rhagorol a chymorth sy'n rhoi ffocws ar y cwsmer o fewn amgylchedd tîm prysur.
Fel Cynorthwy-ydd Ymholiadau, byddwch yn meithrin gwybodaeth fanwl a chyfredol am Brifysgol Abertawe, ei chyrsiau a'i rhaglenni, ac am brosesau derbyn myfyrwyr a systemau cymorth, gan alluogi atebion personol ac ymatebol i amrywiaeth o ymholiadau a themâu. Byddwch chi hefyd yn cefnogi prosesau atgyfeirio ac uwchgyfeirio ymholiadau cymhleth drwy waith tîm effeithiol gyda chydweithwyr, rheolwyr a swyddogaethau cysylltiedig ar draws y Brifysgol.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.