Gwnewch Gais Nawr
Rhif y Swydd
SU00584
Math o Gytundeb
Contract cyfyngedig
Cyflog
£12.69 yr awr
Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
Bywyd Myfyriwr
Lleoliad
Singleton neu Gampws y Bae, Abertawe
Dyddiad Cau
3 Tach 2024
Interview Dates
11 Tach 2024 - 19 Tach 2024
Ymholiadau Anffurfiol
Michelle Evans m.l.evans@swansea.ac.uk

Y Brifysgol

Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.

Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.

Y rôl

Bydd y swydd yn cynnwys rhai o'r gweithgareddau canlynol neu bob un ohonynt:

 

  • Trefnu amserau addas sy'n gyfleus i bawb i gwrdd ar sail un i un i ddarparu cymorth unigol.
  • Cynorthwyo'r myfyriwr (myfyrwyr) wrth reoli amser megis amserlennu, llunio cynllun gwaith ar gyfer cwblhau aseiniadau a pharatoi ar gyfer yr arholiadau.
  • Darparu cyngor ac arweiniad ymarferol i'r myfyriwr mewn ffordd anfeirniadol.
  • Helpu myfyrwyr i drefnu eu hastudiaethau a'u llwyth gwaith.
  • Cynnig arweiniad i alluogi'r myfyriwr i ddod o hyd i adnoddau a deunyddiau darllen perthnasol i'w galluogi i fodloni'r disgwyliadau astudio/aseiniadau.
  • Hyrwyddo annibyniaeth.
  • Cefnogi'r myfyriwr drwy gludo llyfrau/bagiau, agor drysau, codi a chludo cyfarpar o dan gyfarwyddyd y myfyriwr.
  • Cynnig cymorth ac annog y myfyriwr i egluro ei feddyliau a datblygu cynlluniau.
  • Rhoi digon o rybudd ymlaen llaw i'r myfyriwr (myfyrwyr) a'r Cydlynydd Cymorth Anabledd os nad ydych yn gallu bod yn bresennol (o leiaf un wythnos o ddewis).
  • Gallu uniaethu â'r myfyrwyr byddwch yn rhoi cymorth iddynt a gweithio'n annibynnol.
  • Rheoli eich dyddiadur eich hun i roi cymaint o gymorth ag y gallwch ymrwymo iddo, wrth gadw at bolisïau oriau gwaith y Brifysgol ac unrhyw gyfyngiadau fisa.
  • Gweithio bob amser gan roi sylw priodol i ofynion GDPR a sicrhau bod data personol sensitif yn cael ei storio a'i drin yn briodol, gan ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr am gyfrinachedd wrth ymateb yn briodol i ddyletswydd gofal y sefydliad i eraill.
  • Cyflwyno taflenni amser gan ddefnyddio system Connect.
  • Sicrhau nad oes cyswllt y tu allan i'r trefniant cymorth heblaw am at ddibenion canslo neu aildrefnu apwyntiadau.
  • Cyn cytuno i gynnig cymorth ychwanegol ar gyfer myfyriwr, RHAID i'r Cynorthwy-ydd Cymorth Ymarferol roi gwybod i'r Cydlynydd Cymorth Anabledd.
  • Efallai bydd eisiau cyflawni tasgau penodol yn ychwanegol at y rhai hynny a nodwyd uchod. Os oes angen ymgymryd â thasgau ychwanegol, bydd y Cydlynydd Cymorth Anabledd yn eich cynghori.

Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.

Sgiliau Cymraeg

Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.

Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.

Lawrlwytho PS-Llyfryn yr Ymgeisydd-(CY).pdf Lawrlwytho ER31631 Practical Support Assistant JD.docx Argraffu'r dudalen hon Yn ôl at y rhestr