Cynorthwy-ydd Ymchwil/Swyddog Ymchwil - Bioreolaeth Ffwngaidd
- Rhif y Swydd
- SU00662
- Math o Gytundeb
- Contract cyfyngedig
- Cyflog
- £33,882 i £45,163 y flwyddyn
- Cyfadran/Cyfarwyddiaeth
- Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg
- Lleoliad
- Campws Singleton, Abertawe
- Dyddiad Cau
- 8 Ion 2025
- Dyddiad Cyfweliad
- 20 Ion 2025
- Ymholiadau Anffurfiol
-
- Prof Dan Eastwood d.c.eastwood@swansea.ac.uk
- Dr Anke Heuberger a.heuberger@swansea.ac.uk
Y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe'n brifysgol a arweinir gan ymchwil sydd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth ers 1920. Mae cymuned y Brifysgol yn ffynnu ar archwilio a darganfod ac mae'n cynnig y cydbwysedd cywir o addysgu ac ymchwil rhagorol i gyd-fynd ag ansawdd bywyd ardderchog.
Mae ein campysau glan môr a'n cymuned amlddiwylliannol yn gwneud y Brifysgol yn weithle dymunol i gydweithwyr o bedwar ban byd. Mae ein cydnabyddiaeth a'n buddion, a'n ffyrdd o weithio, yn galluogi i bobl sy'n ymuno â ni i gael gyrfaoedd gwobrwyol, ar y cyd â chydbwysedd gwaith-bywyd rhagorol.
Y rôl
Mae'r BioHYB Cynhyrchion Naturiol yn brosiect cydweithredol rhwng diwydiant a'r byd academaidd sydd â'r nod o gyflymu datblygiad ac arloesedd cynhyrchion o organeddau byw sy'n hyfyw yn economaidd. Mae'n defnyddio galluoedd ymchwil presennol a modelau busnes arloesol i hwyluso'r daith o ddarganfod i fasnacheiddio. Mae hyn yn cynnwys canolbwyntio ar ddatblygu cymwysiadau biotechnolegol algâu a darganfod cynhyrchion naturiol. Y nod yw ymchwilio i gynhyrchion naturiol, datblygu prosesau arloesol, goresgyn heriau rheoleiddiol a hwyluso dichonoldeb masnachol cynhyrchion newydd, gan ysgogi arloesi ym maes technoleg werdd a chefnogi cynaliadwyedd byd-eang. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm ymchwil presennol gyda ffocws penodol ar arwain gweithgareddau ymchwil a datblygu er mwyn datblygu cyfryngau bioreolaeth ffwngaidd.
Bydd deiliad y swydd yn arwain gweithgareddau ymchwil ar straeniau ffwngaidd addawol i asesu eu heffeithiolrwydd yn erbyn plâu pryfed targed, gan ddeall mecanweithiau firwledd gan gynnwys marcwyr moleciwlaidd a biocemegol, technolegau fformiwleiddio a strategaethau cymhwyso. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda thechnegwyr ymchwil i gynnal astudiaethau effeithiolrwydd a gweddill y tîm i drosi ymchwil arloesol i allbynnau masnachol megis cynnyrch newydd, gwasanaethau, eiddo deallusol a chwmnïau deillio.
Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae'r Brifysgol yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn ymdrechu i greu amgylchedd cynhwysol a chroesawn geisiadau gan ymgeiswyr amrywiol o'r grwpiau nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.
Sgiliau Cymraeg
Lefel y sgiliau Cymraeg sydd ei hangen ar gyfer y rôl hon yw Lefel 1 - Ychydig. Bydd deiliad y swydd yn gallu ynganu geiriau Cymraeg, ateb y ffôn yn Gymraeg, a defnyddio geiriau ac ymadroddion sylfaenol bob dydd (diolch, os gwelwch yn dda). Gellir cyrraedd lefel 1 o gwblhau cwrs hyfforddi un awr.
Mae’r Brifysgol yn sefydliad dwyieithog balch, ac mae Strategaeth Gymraeg y Brifysgol yn amlinellu ein dyheadau i hyrwyddo’r iaith a galluogi ein staff i ddod i gyswllt â’r iaith fel sgil ychwanegol yn y gweithle ac fel porth i gyfleoedd diwylliannol a chymdeithasol newydd. Croesewir ceisiadau yn y Gymraeg ac ni chaiff cais a gyflwynir yn y Gymraeg ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Mae gan siaradwyr Cymraeg yr hawl i gael cyfweliad yn Gymraeg. Disgwylir i ymgeiswyr ar gyfer rôl lle mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol gyflwyno’u cais yn Gymraeg, a bydd y cyfweliad yn Gymraeg, os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gallwch gyflwyno CV a llythyr eglurhaol ar gyfer y swydd hon.