Manylion y Cwrs

Mae diabetes wedi cyrraedd cyfrannau epidemig byd-eang ac mae'n prysur ddod yn glefyd diffiniol yr 21ain ganrif. Mae hefyd yn her fawr i sefydliadau iechyd o ran rheoli clefydau cronig. Mae'r modiwl hwn yn darparu'r sylfaen i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gyflwyno gofal diabetes amlddisgyblaethol o ansawdd uchel yn gymhwyster achrededig mewn Gofal Diabetes gan Brifysgol Abertawe. Mae’r modiwl yn galluogi myfyrwyr i ymestyn eu rhwydwaith o gysylltiadau ag eraill sy’n gweithio ym maes gofal diabetes, rhannu profiadau a datblygu perthnasoedd cefnogol.

Lefel y Cwrs

FHEQ (beth yw ystyr hyn?)

Pwy ddylai fynychu

Gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn y rhan fwyaf o feysydd clinigol sy'n ymwneud â rheoli diabetes.

Dyddiad

Ionawr

Hyd

Campws ac mewn ymarfer clinigol
Bydd Oriau Cyswllt yn cael eu darparu drwy gyfuniad o weithgareddau byw ar-lein ac ar y campws, a gallant gynnwys, er enghraifft, darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol a sesiynau Mentora Academaidd.
Bydd Oriau Cyswllt yn cael eu darparu drwy gyfuniad o weithgareddau byw ar-lein ac ar y campws, a gallant gynnwys, er enghraifft, darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol a sesiynau Mentora Academaidd.

Asesiad

Prawf Dosbarth Ar-lein, Aseiniad 1

Pris y Cwrs

Cysylltwch â ni am fanylion ffioedd y cwrs.

Lleoliad

Prifysgol Abertawe Campws Parc Dewi Sant, Caerfyrddin ac mewn practis clinigol.

Sut i Wneud Cais

Cysylltwch CPD

Darlithwyr

Ginny Chappell