Mae 100% o'n Hymchwil Seicoleg yn Rhagorol yn Rhyngwladol ar gyfer Effaith

REF2021

MRI Scanner

Mae ein Hysgol Seicoleg yn lle gwych i wneud ymchwil sy'n bwysig. Rydym yn cynnal ymchwil o ansawdd uchel, cydweithredol a rhyngddisgyblaethol sy'n rhychwantu sbectrwm llawn gwyddoniaeth seicolegol o ymchwil sylfaenol i ymchwil gymhwysol. Mabwysiadwn bersbectif trosiadol gyda'r nod o ddeall problemau o bwysigrwydd cymdeithasol, sydd wedyn yn hyrwyddo newid ymddygiad ac yn llywio dadl bolisi. Mae ein hymchwil wedi arwain at fewnwelediadau empirig i brosesau seicolegol cymhleth ac mae'r mewnwelediadau hyn wedi'u hallosod i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol sylweddol.

Rydym yn falch o gysylltiadau cydweithredol cryf gan gynnwys y rhai gyda Sefydliadau Ymchwil ein cyfadran, sy’n cyfoethogi ein hamgylchedd ymchwil ymhellach ac yn hwyluso cydweithio y tu hwnt i ddisgyblaethau a rhyngddynt. Mae’r cydweithrediadau amlddisgyblaethol hyn yn gwella ehangder ein galluoedd ymchwil ac yn meithrin rhwydwaith ehangach, cefnogol ar gyfer ein hymchwilwyr.

Rydym wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynwysoldeb, gan sicrhau bod ein hymchwil yn mynd i’r afael â safbwyntiau amrywiol ac o fudd i bob rhan o gymdeithas. Yn ogystal, rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein staff ar bob lefel gyrfa, yn enwedig ein hymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa ac ymchwilwyr canol gyrfa, gan gydnabod eu cyfraniadau hanfodol i'n hamgylchedd ymchwil deinamig. Barnwyd bod effaith ein gweithgareddau ymchwil yn rhagorol yn rhyngwladol yn asesiad REF2021.

Trosolwg Ymchwil

Mae dull thematig yr ysgol wedi bod yn hollbwysig wrth drosi ein hymchwil yn ddeilliannau ymarferol, wedi’i huno gan ymrwymiad i arloesi ac effaith. Gall ein gweithgareddau gael eu nodweddu gan chwe maes o gryfder ymchwil gan gynnwys:

Gwella Asesu Canlyniadau Cleifion sydd wedi cael Niwed i'r Ymennydd

Mae mwy na 1.3 miliwn o bobl yn y DU yn byw gydag effeithiau tymor hir dioddef niwed i'r ymennydd (ABI). Mae ABI yn anaf i'r ymennydd a ddigwyddodd ers genedigaeth, boed mewn damwain ar y ffordd neu drwy gwympo neu gael strôc. Nod yr ymchwil hon yw sicrhau bod gan weithwyr iechyd yr arfau i ddarganfod anabledd niwroymddygiadol yn ddibynadwy. Mae’r arf hon (Graddfa Canlyniad Niwroymddygiadol Abertawe - St. Andrew's) wedi cael ei mabwysiadu yn eang yn genedlaethol ac yn rhyngwladol a bellach, mae wedi'i gwreiddio mewn systemau cofnodion cleifion electronig.

Gwella Cymorth Seicolegol ar gyfer Straen sy'n Gysylltiedig ag Iechyd

Mae Thrombo-emboledd Gwythiennol (VTE) wedi'i ddiffinio fel tolchenni gwaed sy’n achosi marwolaeth, neu a allai achosi marwolaeth, yn y corff. Mae gan brofiad o VTE nodweddion digwyddiad sy'n debygol o achosi gofid seicolegol sylweddol. Roedd ymagwedd dau linyn at yr ymchwil hon, gyda'r llinyn cyntaf yn nodi maint y broblem a'r ail yn archwilio effeithiau seicolegol VTE. Mae gwaith yr Athro Bennett wedi’i gydnabod fel gwaith y mae'n rhaid iddo fod wrth wraidd datblygu safonau gofal i gleifion VTE, ac mae byrddau iechyd wedi rhoi darpariaeth seicolegol ar waith i gleifion o ganlyniad uniongyrchol i'r ymchwil hon.

Cymorth ar gyfer Anhwylder Cyhyrau Llawr y P

Mae anhwylder cyhyrau llawr y pelfis (PFD) yn effeithio 25% o fenywod yn rhyngwladol. Mae ffisiotherapi yn driniaeth effeithiol, ddiogel a chost-effeithiol. Serch hyn, mae nifer o fenywod ddim yn cwblhau neu fynychu eu sesiynau. Darganfododd Professor Reed bod 50% o’r rheini a oedd yn dioddef o PFD ddim yn mynychu triniaeth. Roedd cleifion a oedd hefyd yn ddioddef iselder neu bryder (tua 30% o’r grŵp hyn) yn llai tebygol o gwblhau triniaeth, ac yn dioddef o ganlyniadau gwaeth, hyd yn oed ar ôl cwblhau triniaeth.

White dice and gambling chips

Gamblo fel Hwyl Ddiniwed?

Mae gamblo (sy'n cael ei ddiffinio fel betio ar ganlyniad ansicr, fel arfer am arian) mor hen ag amser ei hun. Er y gall y rhan fwyaf o bobl fwynhau betio'n achlysurol ar gêm bêl-droed neu ymweld â chasino heb ddatblygu problem, gall lleiafswm sylweddol ei chael hi'n anodd rhoi cyfyngiadau ar eu gamblo.

Nod ein hymchwil ni yw nodi'r bobl hynny a allai fod mewn perygl o niwed sy'n gysylltiedig â gamblo, archwilio mecanweithiau niwroymddygiad sy'n sail i ddechrau a chynnal problemau gamblo a datblygu ffurfiau o driniaeth glinigol arloesol. Rydym wedi mabwysiadu safbwynt trosi a gymhwysir yn sylfaenol lle caiff problemau gamblo neu nodweddion penodol o gemau gamblo eu modelu mewn ffordd arbrofol yn y labordy gwyddoniaeth sylfaenol cyn eu trosi a'u cymhwyso i gamblo byd go iawn.

menyw ar garreg

Gorbryder ac Atal: yn ddiogel o niwed?

Mae dysgu am yr hyn sy'n rhagddweud bygythiadau a'r hyn nad yw’n gwneud hynny yn ein helpu i oroesi. Wrth wynebu sefyllfaoedd newydd, mae profiad gyda bygythiadau tebyg yn gymorth i ni. Fodd bynnag, gallai pobl sy'n agored i orbryder ddibynnu'n ormodol ar un profiad amhleserus wrth ymateb i sefyllfaoedd gwahanol.

Mae 'byw mewn ofn' yn atal cyfleoedd sy'n gwrthbrofi; yn hytrach nag aros i weld a fydd rhywbeth gwael yn digwydd, rydym yn dewis ymagwedd “gwell diogel nac edifar”. O ganlyniad, mae effaith niweidiol ar ansawdd ein bywyd ac mae ein hiechyd meddwl yn dioddef. Mae dod dros y tueddiad ataliol hwn yn nodwedd gyffredin o therapi ymddygiad ac mae'n nodwedd graidd o anhwylderau megis anhwylderau sy'n ymwneud â gorbryder, anhwylderau gorfodaeth obsesiynol ac anhwylder pryder ôl-drawmatig (PTSD).

Ymunwch â'n Cymuned Ymchwil

Mae'r ymchwil rydym yn ei gwneud yn cefnogi ethos sy'n seiliedig ar ddiwylliant o gysylltedd, o'r ymchwil rydym yn ei gwneud i'r cyfleoedd rydym yn eu creu ar gyfer ymchwilwyr gyrfa gynnar. Mae ein hymchwil yn cael effaith fyd-eang ac mae'n sylfaen ddelfrydol i lansio gyrfa ymchwil. Elfen hanfodol o’r holl weithgarwch hwn yw cyfranogiad cleifion a darparwyr gofal yn ein gwaith, gan sicrhau ei fod yn berthnasol o hyd i'r heriau sy'n wynebu ein cymdeithas.

Bydd ein rhaglenni gradd ymchwil yn eich helpu i: ddatblygu gyrfa yn y byd academaidd, gwella eich rhagolygon cyflogaeth, datblygu eich sgiliau mewn gyrfa broffesiynol benodol neu gallech ddewis dilyn rhaglen ymchwil sy'n seiliedig ar eich diddordebau personol chi.