![Impacting lives through collaborative research](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/ymchwil/sefydliadau-ymchwil/iechyd-meddwl-ac-atal-hunanladdiad/Ann_John_SU_Web_Banner_1110x345px.jpg)
Effeithio ar fywydau trwy ymchwil gydweithredol
Ein cenhadaeth yw dod â chymysgedd unigryw o ddisgyblaethau ac arbenigedd ynghyd - gwyddor gymdeithasol, fforensig, seicoleg, seiciatreg, iechyd y cyhoedd, daearyddiaeth, gwyddor gymdeithasol, gwyddor data, y gyfraith a'r celfyddydau - i gynnal ymchwil arloesol ym maes iechyd meddwl ac atal hunanladdiad llywio mecanweithiau, ymyriadau a pholisïau trawslywodraethol sylfaenol ac atal a lliniaru effeithiau problemau iechyd meddwl ac ymddygiad hunanladdol, yn enwedig mewn grwpiau ymylol a grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu'n ddigonol. Rydym hefyd yn darparu lle i ymchwilwyr, ymarferwyr ac athrawon o bob lefel o arbenigedd ar draws y Gyfadran ac yn ehangach i ymgysylltu â chymuned o fwriad a rennir.
Dan arweiniad yr Athro Ann John a Dr Kimberly Dienes bydd Sefydliad Ymchwil SPMH yn trawsnewid ein dealltwriaeth o atal hunanladdiad a hunan-niwed a gwella bywydau’r rhai sy’n profi problemau iechyd meddwl.
Gwyddorau Cydmeithasol
![Gwyddorau Cydmeithasol](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/ymchwil/sefydliadau-ymchwil/iechyd-meddwl-ac-atal-hunanladdiad/Admiistrative-and-social-science.jpg)
Fforensig
Seicoleg
![Seicoleg](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/ymchwil/sefydliadau-ymchwil/iechyd-meddwl-ac-atal-hunanladdiad/Psychology-Research.jpg)
Seiciatreg
Iechyd y Boblogaeth
![Iechyd y Boblogaeth](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/ymchwil/sefydliadau-ymchwil/iechyd-meddwl-ac-atal-hunanladdiad/Public-Health-Image.jpg)
Daearyddiaeth
![Campws Singleton](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/ymchwil/sefydliadau-ymchwil/iechyd-meddwl-ac-atal-hunanladdiad/SIngleton-Cmapus-%281%29-%281%29.jpg)
Gwyddor Data
![Adeilad Gwyddor Data](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/ymchwil/sefydliadau-ymchwil/iechyd-meddwl-ac-atal-hunanladdiad/Data-Science.jpg)
Y Gyfraith
![Y Gyfraith](/cy/meddygaeth-iechyd-gwyddor-bywyd/ymchwil/sefydliadau-ymchwil/iechyd-meddwl-ac-atal-hunanladdiad/360x345-1374-Law_106.jpg)
Pam atal hunanladdiad ac iechyd meddwl?
Hunanladdiad yw un o brif achosion marwolaeth ymhlith pobl ifanc ledled y byd ac mae iechyd meddwl yn bryder iechyd cyhoeddus byd-eang. Tra gwneir ymdrechion parhaus i atal hunanladdiad, mae angen dybryd i ddeall ei achosion cymhleth yn well ac i ddatblygu strategaethau atal effeithiol.
Yn yr un modd, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cymdeithasol, iechyd ac economaidd iechyd meddwl ond rydym yn dal i fod yn gyfyngedig yn ein dealltwriaeth o iechyd meddwl a sut i wella ei reolaeth.
Ein gweledigaeth yw trawsnewid bywydau, arfer a pholisi ym maes atal hunanladdiad a hunan-niwed ac iechyd meddwl trwy ymchwil.
Cymryd Rhan
Rydym yn croesawu unrhyw un sy’n rhannu ein gweledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd i ymuno â ni i hybu ein gweithgarwch cydweithio, gartref a thramor.
Yn benodol, rydym yn bwriadu parhau i gryfhau ein cysylltiadau â’r GIG, diwydiant a phartneriaid eraill ledled y byd.
Cysylltwch â ni